Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (103)v5 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiwn Brys Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wladoli Maes Awyr Caerdydd.
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac Ymgysylltiad â Phobl Ifanc - Gohiriwyd |
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar Cymwysterau Cymru (30 munud) |
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ar yr Ymgynghoriad ar Raglenni’r Cronfeydd Strwythurol ar gyfer 2014 - 2020 (30 munud) |
6. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ar ailddechrau defnyddio eiddo gwag: cynllun Troi Tai’n Gartrefi (30 munud) |
7. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus - cymalau sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i gynlluniau newydd - Gohiriwyd
NDM5055 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 13 Medi 2012 sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i’r cynlluniau pensiwn newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/publicservicepensions/documents.html
Dogfennau ategol:
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol |
8. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol (15 munud)
NDM5082 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/preventionofsocialhousingfraud/documents.html
Dogfennau ategol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
9. Dadl ar y Setliad Llywodraeth Leol (60 munud)
NDM5127 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2013-2014 (Setliad Terfynol – Cynghorau) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Ionawr 2013.
Dogfennau ategol: |
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am
|
10. Dadl Fer - gohiriwyd o 21 Tachwedd 2012 (30 munud)
NDM5100 Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
A yw Cynlluniau Datblygu Lleol yn addas i’r diben?
Mae angen diwygio'r system yn ei hanfod os yw am sicrhau canllawiau tymor hir effeithiol ar gyfer cynllunio a datblygu yng Nghymru. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 9 Ionawr 2013